
VTCT Level 3 Award In
Crystal Therapy
Mae'r uned ganlynol wedi'i chynnwys yn y cwrs hwn:
Therapi Crisialau UCT7M
Mae'r cwrs yn rhedeg dros 4 diwrnod llawn, ac yna 1/2 diwrnod olaf ar gyfer asesu a chyflwyno astudiaethau achos ac aseiniadau/llyfrau gwaith (os nad ydynt wedi'u cyflwyno eisoes)
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn
Ar ôl y cwrs bydd angen i ddysgwyr lunio portffolio o dystiolaeth, a chwblhau astudiaethau achos ac aseiniadau/llyfrau gwaith
Bydd angen i ddysgwyr ddod â'u tystiolaeth i’r sesiwn 1/2 diwrnod terfynol lle fyddant yn gwneud asesiad ymarferol Nid oes unrhyw bapurau arholiad allanol
Y gost yw £450, sy'n cynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb, llawlyfrau, cymorth trwy e-bost ac asesu
Costau ychwanegol - ffi VTCT £52 (2021-2022)
Disgwylir i ddysgwyr wisgo gwisg salon, cyn lleied o golur â phosibl, dim sglein ewinedd na gemwaith a dylid clymu gwallt yn ôl ac oddi ar y wyneb. Os nad oes gan y dysgwyr wisg salon, gallant wisgo trowsus du, esgidiau du fflat, sanau du a chrys-t neu grys polo du
Disgwylir i ddysgwyr brynu eu crisialau eu hunain (darperir manylion) a dod â'u blancedi, gobennydd a’u rôl hylendid eu hunain
Mae'r cwrs yn ymdrin â strwythur y ddaear, y gylchred greigiau, tyfiant crisialau, rhybuddion yn ymwneud â therapi crisialau, dewis a gofalu am grisialau, buddion ac effeithiau therapi crisialau, damcaniaethau ynglŷn â sut mae therapi crisialau yn gweithio, y system ynni gynnil, proffesiynoldeb, cyflwyniad personol, amgylchedd triniaeth, gwasanaeth cwsmeriaid ac ymwybyddiaeth fasnachol, ymgynghoriadau, technegau a deddfwriaeth therapi crisialau
Cwrsia Nesaf
Nos Fercher
13 Hydref
20 Hydref
NO CLASS HALF TERM
3 Tachwedd
10 Tachwedd
17 Tachwedd
24 Tachwedd
1 Rhagfyr
8 Rhagfyr
© In The Pink Therapies And Training
All rights reserved. Website designed and created by In The Pink Therapies And Training PrivacyPolicy