
VTCT Level 3 Certificate In
Anatomy, Physiology And Pathologies
Ymdrinnir â'r pynciau canlynol yn y cwrs hwn:
Gwneuthuriad y corff
Croen, gwallt ac ewinedd
Y system ysgerbydol
Y system gardiofasgwlaidd
Y system dreulio
Y system endocrinaidd
Y system lymffatig
Y system gyhyrol
Y system nerfol
Y system resbiradol
Y system atgenhedlu
Y system droethol
Gellir cychwyn y cwrs hwn ar unrhyw adeg i weddu i'ch hun, ond dylid nodi y bydd tystysgrifau VTCT yn cael eu harchebu ddwywaith y flwyddyn (Ebrill a Hydref) ac felly dylech anelu at gwblhau eich cwrs gyda hyn mewn golwg
Mae'r uned ganlynol wedi'i chynnwys yn y cwrs hwn:
UV31299 Gwybodaeth am Anatomi, Ffisioleg a Phatholeg ar gyfer Therapïau Cyflenwol
Cwrs dysgu o bell yw hwn y gellir ei gymryd ar ei ben ei hun, neu fel rhan o gwrs Diploma VTCT ee Diploma mewn Adweitheg, Diploma mewn Aromatherapi
Bydd dysgwyr yn cwblhau aseiniadau ar bob un o systemau'r corff a bydd gofyn iddynt eistedd 2 bapur arholiad a osodir yn allanol
Y gost yw £250, sy'n cynnwys llawlyfrau hawdd eu defnyddio, adnoddau dysgu rhyngweithiol, marcio, adborth, sesiwn arholiad a chymorth dros e-bost
Bydd angen i ddysgwyr fod yn gallu gweithio ar safon lefel 3, yn ogystal â meddu ar lefel dda o ymrwymiad a sgiliau rheoli amser da, a bydd disgwyl iddynt wneud ymchwil bellach i gefnogi eu hastudiaethau
Costau ychwanegol - ffi VTCT £67.50 (2021-2022)
© In The Pink Therapies And Training
All rights reserved. Website designed and created by In The Pink Therapies And Training PrivacyPolicy