
VTCT Level 3 Diploma In
Reflexology
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys:
Uned Adweitheg
Hanes adweitheg; parthau, canllawiau ac atgyrchau; damcaniaethau ynghylch sut mae adweitheg yn gweithio; manteision ac effeithiau; technegau adweitheg; proffesiynoldeb ac ymddangosiad proffesiynol; amgylchedd triniaeth; hylendid a diogelwch yn y salon; cyfryngau tylino; cyflyrau sy’n anaddas ar gyfer adweitheg; mân symptomau; yr offer sydd ei angen; addasiadau i’r driniaeth; paratoi ar gyfer triniaeth; dadansoddiad gweledol; y weithdrefn driniaeth; cyngor ar ofal yn y cartref; adweitheg dwylo; gwerthuso’r driniaeth; ymarfer myfyriol; yswiriant a deddfwriaeth
Asesir drwy aseiniadau. Nid oes papur arholiad allanol
Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer yr Uned Therapïau Cyflenwol
Hanes, tarddiad a damcaniaethau therapïau cyflenwol, deddfwriaeth, codau ymddygiad, sefydliadau proffesiynol, technegau ymgynghori a chyfathrebu, cyfrinachedd, cynllunio triniaeth ac atgyfeiriadau
Asesir drwy aseiniadau. Nid oes papur arholiad allanol
Ymarfer Busnes ar gyfer yr Uned Therapïau Cyflenwol
Deddfwriaeth, yswiriant, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, cyfleoedd cyflogaeth, mathau o fusnes a chynllun busnes
Asesir drwy aseiniadau. Nid oes papur arholiad allanol
Uned Anatomeg, Ffisioleg a Phatholegau (Dysgu o Bell)
Gwneuthuriad y corff
Croen, gwallt ac ewinedd
Y system ysgerbydol
Y system gardiofasgwlaidd
Y system dreulio
Y system endocrinaidd
Y system lymffatig
Y system gyhyrol
Y system nerfol
Y system resbiradol
Y system atgenhedlu
Y system wrinol
Mae papur arholiad ar gyfer yr uned hon
Cwrs Penwythnos
12 a 13 Chwefror 2022
12 a 13 Mawrth 2022
9 Ebrill 2022
14 Mai 2022
18 Mehefin 2022
16 Gorffennaf 202
7 Mai 2022 (Unedau Egwyddorion ac Ymarferion ac Ymarfer Busnes)
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd cyfle i ddysgwyr i ymuno â sefydliadau proffesiynol, cydnabyddedig gan gynnwys Ffederasiwn y Therapyddion Holistaidd, Cymdeithas Adweithegwyr a'r Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol
Mae'r unedau canlynol wedi’u cynnwys yn y diploma hwn:
UV31268 Egwyddorion ac Ymarfer Therapïau Cyflenwol
UV31267 Ymarfer Busnes ar gyfer Therapïau Cyflenwol
UV31299 Gwybodaeth am Anatomi, Ffisioleg a Phatholeg ar gyfer Therapïau Cyflenwol
UV31302 Darparu Adweitheg ar gyfer Therapïau Cyflenwol
Cynhelir y cwrs adweitheg dros 9 diwrnod llawn yn fisol (ac eithrio'r 2 benwythnos cyntaf) ac yna 1/2 diwrnod terfynol ar gyfer asesu
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn
Y gost yw £1,190 sy'n cynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb, llawlyfrau, adnoddau ar-lein, cymorth trwy e-bost ac asesu
Bydd angen i ddysgwyr lunio portffolio o dystiolaeth, cwblhau astudiaethau achos ac aseiniadau. Bydd disgwyl i ddysgwyr gwblhau 100 o driniaethau adweitheg cyn diwedd y cwrs. Mae hyn yn un o ofynion VTCT sy'n dangos natur broffesiynol y cwrs hwn
Bydd angen i ddysgwyr ddod â'u tystiolaeth i’r sesiwn 1/2 diwrnod terfynol pan fydd asesiad ymarferol yn cael ei gynnal
Costau ychwanegol - ffi VTCT £108.00 (2021-2022)
Disgwylir i ddysgwyr wisgo gwisg salon, ychydig o golur, dim sglein ewinedd a dylid clymu gwallt yn ôl ac oddi ar y wyneb. Os nad oes gan ddysgwyr wisg salon, gallant wisgo trowsus du, esgidiau du fflat, sanau du a chrys-t neu grys polo du
© In The Pink Therapies And Training
All rights reserved. Website designed and created by In The Pink Therapies And Training PrivacyPolicy