
Hyfforddiant
Reiki
Mae'r cyrsiau hyn wedi'u dilysu a'u cymeradwyo gan y Ffederasiwn Reiki gan eu bod yn bodloni'r Cwricwlwm Craidd a'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Reiki, sy'n arbennig o bwysig i'r rhai sy'n dymuno symud ymlaen i statws ymarferwr proffesiynol.
Mae’r Radd Gyntaf a’r Ail Radd yn ddau gwrs unigol a gall myfyrwyr roi'r gorau ar ôl y Radd Gyntaf neu’r Ail Radd. Fodd bynnag, bydd angen i'r rhai sy'n dymuno dod yn ymarferwyr er mwyn gweithio gyda chleientiaid gwblhau cwrs Ymarferydd Proffesiynol Usui Reiki hefyd.
Mae'r cymhwyster ymarferwr yn bodloni'r meini prawf ar gyfer aelodaeth o Ffederasiwn Reiki, Ffederasiwn Therapyddion Holistig, a mynediad i gofrestr y Cyngor Gofal Iechyd Naturiol a Chyflenwol ar gyfer Reiki.
Os ydych yn dymuno ymuno â chwrs, llenwch FFURFLENGOFRESTRU a’i hanfon yn ôl naill ai drwy e-bost neu drwy’r post i neilltuo eich lle. Mae angen blaendal o 25% a gellir talu hwn gyda siec neu ar-lein (gofynnwch am fanylion banc)
Gradd Gyntaf Reiki
Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer pobl sy'n dymuno defnyddio Reiki i drin eu hunain, eu teulu a’u ffrindiau
Mae’n cynnwys - 2 ddiwrnod (neu 5 noson) o hyfforddiant, cyweiriad, llawlyfr y cwrs, llinach Usui Reiki a thystysgrif
Cynnwys y cwrs - esbonio Reiki a'i darddiad, yr aura a’r chakras, ymarferion egni, dod yn sianel Reiki, rhoi triniaeth Reiki lawn ar soffa a chadair, gwrtharwyddion Reiki, hunan driniaeth, gwahanol ffyrdd o ddefnyddio Reiki, Egwyddorion a llinach Reiki
Rhaid i fyfyrwyr gwblhau llyfr gwaith ac astudiaethau achos cyn cael eu Hardystio
Cost £150
Ail Radd Reiki
Mae'r hyfforddiant hwn yn cynnwys technegau a gwybodaeth bellach ar ddefnyddio Reiki
Bydd angen i'r myfyrwyr fod wedi gorffen Gradd Gyntaf Reiki, a bod wedi gadael o leiaf 3 mis cyn mynychu'r cwrs hwn
Mae’n cynnwys - 2 ddiwrnod a hanner o hyfforddiant, cyweiriad, llawlyfr y cwrs, llinach Usui Reiki a thystysgrif
Cynnwys y cwrs - mwy ar chakras a'r aura, symbolau Reiki, iachau o bell, technegau ar gyfer defnyddio Reiki, iechyd a lles, a llinach
Rhaid i fyfyrwyr gwblhau llyfr gwaith ac astudiaethau achos cyn cael eu Hardystio
Cost £180
Beth sy'n Gwneud ein Cyrsiau Mor Arbennig?
Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau Gradd Gyntaf ac Ail Radd Reiki ac sy'n dymuno gweithio gyda chleientiaid ar sail broffesiynol
Mae’n cynnwys - 2 ddiwrnod a hanner o hyfforddiant, cyweiriad, llawlyfr y cwrs, llinach Usui Reiki a thystysgrif
Cynnwys y cwrs - ymgynghoriadau, technegau cyfathrebu, cynllunio triniaeth, cadw cofnodion, cyngor ar ôl-ofal, gwerthuso, proffesiynoldeb, deddfwriaeth ac anatomeg a ffisioleg.
Rhaid i fyfyrwyr gwblhau aseiniadau, astudiaethau achos a chwrs cymorth cyntaf cyn cael eu hardystio
Cost y cwrs £380 ynghyd â sesiwn asesu ychwanegol £25
MAE'R DAITH GYFAN I FOD YN YMARFERYDD USUI REIKI PROFFESIYNOL YN CYNNWYS
50 awr o hyfforddiant personol dros gyfnod o 9 mis o leiaf (cyrsiau Cyntaf, Ail ac Ymarferwr)
100 awr o dderbyn triniaethau Reiki
Rhoi 75 o driniaethau llawn
Pob cyweiriad
Llawlyfrau’r cwrs
Llinach Usui Reiki
Tystysgrifau
Ymarferydd Proffesiynol Usui Reiki
Dyddiadau'r Cyrsiau
Reiki I
5-6 Chwefror 2022
Reiki II
19, 20 a 21 (hanner diwrnod) Mai 2021
4-5 Medi 2021 (hanner diwrnod i'w gadarnhau)
Professional Usui Reiki Practitoner
4-6 March 2022
© In The Pink Therapies And Training
All rights reserved. Website designed and created by In The Pink Therapies And Training PrivacyPolicy